January 19 – 2 March 2013
Llanberis based fine artist Karina Rosanne Barrett takes inspiration from the traditional dwellings of the area, particularly those found in extreme locations, nestled high in the hills, or perched on the edge of the Irish Sea. Working with acrylic on canvas, Karina aims to capture the ostensible charm of these challenging habitations. The subjects of Karina Barrett’s paintings are directly inspired by her surroundings in Snowdonia where she lives and produces her work. “I have a peculiar interest in the traditional dwellings of the area, and the idea of them slowly being reclaimed by their landscape, weather and neglect. Many pieces are based on locations I often visit on Ynys Môn and Pen Llŷn.”
MEET THE ARTIST – Karina Barrett
Saturday 16 February, 1 – 2.30pm
An opportunity to meet the artist at her exhibition of recent paintings. Directly inspired by her surroundings in Snowdonia, Karina has a peculiar interest in the traditional dwellings of the area, particularly those found in extreme locations.
Ionawr 19 – 2 Mawrth 2013
Caiff Karina Rosanne Barrett, yr arlunydd cain o Lanberis, ei hysbrydoli gan aneddleoedd traddodiadol yr ardal honno, yn enwedig y rhai a ganfyddir yn y lleoliadau pellaf, wedi’u swatio’n
uchel yn y bryniau, neu’n sefyll ar erchwyn Môr Iwerddon. Mae Karina yn ceisio dal gafael ar swyn ymddangosiadol yr aneddleoedd heriol hyn drwy weithio gydag acrylig ar gynfas. Mae testunau peintiadau Karina Barrett wedi’u hysbrydoli’n uniongyrchol gan ei hamgylchfyd yn Eryri lle mae hi’n byw ac yn cynhyrchu ei gwaith. “Mae gen i ddiddordeb arbennig yn aneddleoedd traddodiadol yr ardal, a’r syniad ohonynt yn cael eu hadfer yn ôl yn araf gan eu tirwedd, tywydd a’u diystyrwch. Mae llawer o’r darnau yn seiliedig ar leoliadau yr wyf yn ymweld â nhw’n aml yn Ynys Môn a Phen Llŷn.”
CWRDD Â’R ARLUNYDD – Karina Barrett
Dydd Sadwrn 16 Chwefror, 1 – 2.30pm
Cyfle i gwrdd â’r arlunydd yn ei arddangosfa o luniau diweddar. Wedi ei hysbrydoli yn uniongyrchol gan ei hamgylchfyd yn Eryri, mae gan Karina ddiddordeb arbennig yn aneddleoedd traddodiadol yr ardal, yn enwedig rhai a ganfyddir yn y lleoliadau diarffordd.